Gan Film Bilder, y stiwdio a wnaeth Head Up, y mae’r ffilm hon. Yn rhan o gyfres Animanimals gan Julie Ocker, mae’n cyfleu bodolaeth systematig a chyfunol nythfa o forgrug. Mae manwl gywirdeb milwrol y morgrug yn fan cychwyn addas i drafod y clymau … [Darllen mwy...]
Bon Voyage [Siwrnai Dda]
Mae eironi didostur teitl y ffilm hon yn arwydd o’i thriniaeth ergydiol o bwnc anodd, pwysig mudo gorfodol. Dechreua'r ffilm fel animeiddiad traddodiadol, gan gyfleu criw o ffoaduriaid mewn arddull o luniadau llinell syml wrth iddynt ffoi rhag perygl … [Darllen mwy...]
La Loi du Plus Fort [Cyfraith y Jyngl]
Mae mwnci bach mewn jyngl yn cadw llygad ar glwstwr enfawr o fananas, ond ni waeth beth a wna, ni all ei gyrraedd. Pan fydd mwnci mawr yn llwyddo lle mae yntau wedi methu, mae fel petai popeth ar ben, ond yna mae gorila’n ymddangos i gymhlethu pethau … [Darllen mwy...]
Domek [Y Tŷ]
Pan fydd teulu'n gadael eu tŷ am fflat newydd yng nghanol y ddinas, mae'r tŷ’n diwreiddio ei hun er mwyn eu dilyn a'u hennill yn ôl. Dyma ddechrau hanes cystadleuaeth rhwng technolegau a ffyrdd o fyw hen a newydd, wrth i’r tŷ ddilyn yr unig gliw sydd … [Darllen mwy...]
Die Igel und die Stadt [Y Draenog a’r Ddinas]
Ar ddechrau’r enghraifft hardd hon o ffilm stop-symud Faltig (Latfia), caiff rôl diwydiant ei chyfleu mewn tirwedd sy'n newid: mae golygfa o goedwig eira yn cael ei dileu, a dinas yn ymddangos yn ei lle. Yng nghanol sgwâr y ddinas mae parc sy’n … [Darllen mwy...]
The Amazing Little Worm [Y Mwydyn Bach Rhyfeddol]
Mae'r mwydyn eponymaidd yn y ffilm fer hon yn anfodlon ar ei hunaniaeth ac fe hoffai fod yn rhywbeth arall. Ceisia fod yn gyfaill i bâr o lindys, ond nid yw'n llwyddo i fabwysiadu eu metamorffosis yn loÿnnod byw. Mae hyd yn oed yn gwneud pâr o … [Darllen mwy...]
November [Tachwedd]
Mae'r anifeiliaid sy'n byw ar hyd glannau'r afon yn paratoi ar gyfer gaeaf hir, oer yn y ffilm fer hon, wedi'i hanimeiddio'n hyfryd a’i hadrodd yn fwyn, gan yr animeiddydd o’r Swistir Marjolaine Perreten. Wrth i'r glaw ddisgyn a’r awyr lwydo, … [Darllen mwy...]
Mobile [Symudyn]
Mae tegan buwch fawr yn hongian ar ddiwedd symudyn uwchben crud. Yn y pen arall, mae teganau llai yn hongian gyda'i gilydd. Mae'r symudyn yn hongian yn fregus ei gydbwysedd, a phan geisia’r fuwch ddod yn agosach at ei ffrindiau, mae'r cydbwysedd ar … [Darllen mwy...]
Isän Poika [Bachgen Dad]
Gwrywdod a benyweidd-dra sydd dan sylw yn y ffilm fer CGI hon, a gyd-gynhyrchwyd yn Iwerddon a'r Ffindir. Paratowyd y ffilm yn wreiddiol yn rhan o brosiect yn dathlu cerddoriaeth Chopin. Er nad yw gwybodaeth am Chopin yn angenrheidiol o gwbl i … [Darllen mwy...]