Mae Llyfrgell DIALLS yn gasgliad o lyfrau a ffilmiau di-eiriau sydd wedi’u curadu a all ysgogi trafodaeth am themâu DIALLS a hyrwyddo goddefgarwch, empathi a chynhwysiad.
Croeso i Lyfrgell DIALLS. Dewiswyd y llyfrau a’r ffilmiau di-eiriau sydd ar ei silffoedd rhithwol yn ofalus gan ymchwilwyr DIALLS gan ddefnyddio adborth gan athrawon a myfyrwyr.
O fewn y llyfrgell, fe welwch:
- Yr 20 ffilm rydym wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol
- Dros 40 o ffilmiau ychwanegol ynghyd ag awgrymiadau trafod i ymestyn dysgu llythrennedd diwylliannol
- Disgrifiadau o 74 o lyfrau lluniau di-eiriau y gellid eu defnyddio i gefnogi trafodaethau ar thema DIALLS
Awgrymiadau ar gyfer defnyddio’r testunau di-eiriau
- Mae ffilmiau DIALLS wedi’u neilltuo i wahanol grwpiau oedran. Mae hyn yn adlewyrchu cymhlethdod syniadau, neu natur sensitif materion penodol, a godwyd gan bob ffilm. Fodd bynnag, yn ogystal ag oedran, mae cyd-destun diwylliannol hefyd yn bwysig i’w ystyried o ran yr hyn sydd ac nad yw’n briodol i’w rannu â’ch dosbarth. Felly, rydym yn cynghori y dylai athrawon wylio ffilm yn gyntaf bob amser cyn ei rhannu gyda’u plant.
- Mae ein deunyddiau Datblygu Proffesiynol yn cynnwys sesiwn ar gyfryngu ffilmiau di-eiriau.
Themâu Diwylliannol
- Pob ()
- Goddefgarwch Empathi a Cynhwysiant ()
- Cyfrifoldeb cymdeithasol ()
- Perthyn ()
- Cyd-fyw ()
Ystod Oedran
- Pob ()
- 4-7 oed ()
- 8-11 oed ()
- 12-15 oed ()
Llyfrgell Lawn
Pob ffilm
Ffilmiau yn y CLLP
Ffilmiau gydag awgrymiadau trafod
Pob llyfr