Mae mwnci bach mewn jyngl yn cadw llygad ar glwstwr enfawr o fananas, ond ni waeth beth a wna, ni all ei gyrraedd. Pan fydd mwnci mawr yn llwyddo lle mae yntau wedi methu, mae fel petai popeth ar ben, ond yna mae gorila’n ymddangos i gymhlethu pethau eto. Mae’r tri anifail yn dadlau sut mae rhannu’r fanana. Drwy ddefnyddio ei gyfrwystra, mae’r mwnci cyntaf yn sicrhau tamaid gweddol i’w fwyta, gan osgoi gwrthdaro. Mae’r ffilm fer fywiog, hwyliog hon a grëwyd gan y Ffrances Pascale Hecquet yn cynnwys themâu cymhwystra cymdeithasol a sifil, gan y bydd plant yn gallu cynnal deialog am gyfiawnder, tegwch a chyfiawnder drwy’r ddadl rhwng y tri anifail. I ychwanegu thema datblygiad cynaladwy/newid hinsawdd, gellid defnyddio’r ffilm hon fel estyniad i Where is the Elephant? gan Barroux.