
Ar ddechrau’r enghraifft hardd hon o ffilm stop-symud Faltig (Latfia), caiff rôl diwydiant ei chyfleu mewn tirwedd sy’n newid: mae golygfa o goedwig eira yn cael ei dileu, a dinas yn ymddangos yn ei lle. Yng nghanol sgwâr y ddinas mae parc sy’n gartref i grŵp o anifeiliaid gwyllt. Testun y rhan fwyaf o’r naratif yw’r anifeiliaid yn gwneud eu gorau glas i gymryd rhan mewn bywyd dinesig a chymdeithasol: maent yn cynorthwyo pobl drwy weithio mewn myrdd o wahanol rolau i’w talu ag arian parod. Wrth iddynt chwarae eu rhan, mae’r ffilm yn darlunio amrywiaeth o ryngweithiadau cyffredin mewn bywyd normal: magu plant, bywyd nos, gwerthwyr bwyd stryd. Datgelir y troad ar y diwedd wrth i’r anifeiliaid ddod at ei gilydd yn y sgwâr gyda’r nos i gyfrif yr arian a enillwyd ganddynt. Mae’r pentwr mawr o arian yng nghanol y sgwâr yn ddigon i chwalu’r ddinas a dychwelyd i’r gwyllt. Ar ddiwedd y ffilm, mae’r anifeiliaid yn difa’r man trefol ac yn dod â’u hen gynefin yn ôl. Er bod y ffilm yn cynrychioli mater treftadaeth ddiwylliannol yn ei chynrychioliad o system ddeuaidd rhwng natur/dinas ac anifail/dynol, mae byrdwn y naratif yn cyfleu dulliau gwyrdroadol o weithio.