
Gan Film Bilder, y stiwdio a wnaeth Head Up, y mae’r ffilm hon. Yn rhan o gyfres Animanimals gan Julie Ocker, mae’n cyfleu bodolaeth systematig a chyfunol nythfa o forgrug. Mae manwl gywirdeb milwrol y morgrug yn fan cychwyn addas i drafod y clymau cymdeithasol sy’n diffinio cymunedau cyfoes, gan gynnwys Ewrop gyfan. Cydweithia’r morgrug yn berffaith, ac eithrio’r morgrugyn bach dewr sy’n arwain y stori. Mae gan y morgrugyn hwn ei ffordd ei hun o wneud pethau, a’i ysbryd creadigol yn peri ymyriad pwysig yng ngwaith cyfundrefnol y gymuned. Daw’r morgrug eraill i ymuno ag ef. Ar ddiwedd y ffilm, cred y morgrugyn y bydd y prif forgrugyn yn ddig ag ef — a ninnau o’r un farn. Ond mae popeth yn iawn: mae’r prif forgrugyn yn ei longyfarch am ei feddwl llwyddiannus. Dyma ddarn gorfoleddus, bywiog o animeiddio gyda neges glir a chadarnhaol am rôl arloesi a meddwl yn wahanol wrth ddatblygu strategaethau newydd y gall cymdeithas eu defnyddio i symud ymlaen. Bydd plant 8-11 oed yn gallu strwythuro dadl ar y themâu hyn drwy ystyried y ffilm fer hon.