
Mae eironi didostur teitl y ffilm hon yn arwydd o’i thriniaeth ergydiol o bwnc anodd, pwysig mudo gorfodol. Dechreua’r ffilm fel animeiddiad traddodiadol, gan gyfleu criw o ffoaduriaid mewn arddull o luniadau llinell syml wrth iddynt ffoi rhag perygl i ddiogelwch tybiedig Ewrop. Wrth i’r grŵp ragweld eu dyfodiad wrth Dŵr Eiffel a Thŵr Pisa, cyflwynir peryglon eu mordaith bron fel hiwmor slapstic; mae hyn yn effeithiol am wneud y gwyliwr yn anghyfforddus wrth gyfleu erchyllterau a chaledi argyfwng y ffoaduriaid mewn modd bwriadol o amrwd. Peidia’r anghysur hwn ar ddiwedd y ffilm pan newidia’r animeiddiad yn ddramatig i saethiad drama fyw o ffoadur yn cael cyfweliad am loches gan banel o swyddogion. Mae’r ffilm fer ddyfeisgar a heriol hon yn ffordd bwerus o annog pobl ifanc rhwng deuddeg a phymtheg oed i wynebu realiti argyfwng y mudwyr. Cynghorir disgresiwn cyn dewis y ffilm fer hon: mae’n addas ar gyfer pobl ifanc emosiynol-aeddfed sydd â phrofiad blaenorol o ymdrin â materion soffistigedig ac anodd yng nghyd-destun trafodaeth grŵp.