Mae Maniffesto Myfyrwyr DIALLS yn ddatganiad — gan gannoedd o bobl ifanc — ynglŷn â sut y dylem i gyd ymddwyn tuag at ein gilydd a’r blaned a rannwn.
Yn hydref 2020, fe wnaeth ugain o’r dosbarthiadau a oedd wedi gweithredu’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol fyfyrio ar bopeth yr oeddent wedi’i drafod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o oddefgarwch, empathi a chynhwysiad i heriau newid hinsawdd a democratiaeth.
Ysgrifennodd pob dosbarth gyfres o ddatganiadau “rheolau byw”: y canllawiau y credant y dylai pobl ifanc eu dilyn er mwyn byw drwy werthoedd DIALLS. Gyda’i gilydd, mae’r datganiadau hynny’n ffurfio Maniffesto Myfyrwyr DIALLS, dogfen bwerus o lais myfyrwyr a gallu pobl ifanc i fyfyrio ar eu rôl yn y byd. Mae’r Maniffesto’n cynrychioli tua 500 o blant mewn pum gwlad o 5-15 oed.
Isod, gallwch droi drwy’r Maniffesto ei hun, neu daliwch ati i sgrolio i weld y ffilmiau byr a’r gweithiau celf a grëwyd gan rai dosbarthiadau i gyd-fynd â’u datganiad rheolau byw.
Gwyliwch gasgliad o’r ffilmiau a wnaeth pobl ifanc o bum gwlad i gyd-fynd â’r Maniffesto!
Gwyliwch y ffilmiau byr a greodd pobl ifanc yn rhai o’r gwledydd fu’n cymryd rhan gyda’i gilydd.
Dosbarth 1 yr Almaen
Dosbarth 1 Portiwgal
Dosbarth 1 y DU
Dosbarth 2 yr Almaen
Dosbarth 2 Portiwgal
Dosbarth 2 y DU
Dosbarth 4 Portiwgal
Gwaith Celf y Maniffesto
Dewisodd rhai dosbarthiadau ddangos eu datganiad “rheolau byw” gyda gwaith celf. Hofrwch dros bob un i weld gwlad a grŵp oedran yr artistiaid, a chliciwch i’w weld yn agos.
- All
- Portugal
- Lithuania
- Israel
- UK