Hysbysiad Preifatrwydd
Mae gwefan prosiect DIALLS www.dialls2020.eu yn rhan o brosiect consortiwm Horizon 2020 y CE dan arweiniad y Gyfadran Addysg ym Mhrifysgol Caergrawnt. Cynhaliwyd y prosiect rhwng mis Mai 2018 a mis Mai 2021 a bydd y wefan hon, sy’n cynnwys canlyniadau’r prosiect, yn parhau’n fyw tan fis Mai 2026 o leiaf.
Gwybodaeth Bersonol a gasglwyd
Nid yw gwefan DIALLS yn casglu unrhyw ddata personol.
Cwcis
Ni ddefnyddir cwcis (ffeiliau bach sy’n eistedd ar eich cyfrifiadur ac sy’n cofnodi rhyngweithiadau penodol rhyngoch chi a’r wefan hon, ac mewn rhai achosion, gwefannau eraill) ar wefan DIALLS ar wahân i’r rhai sy’n cofio pa dudalen yr oeddech arni yn ystod eich ymweliad diwethaf. Darllenwch ragor am ein Polisi Cwcis yma.
Dadansoddeg
Pan fydd rhywun yn ymweld â www.dialls2020.eu rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrymau ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn i ddarganfod pethau fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau’r safle. Dim ond mewn ffordd nad yw’n adnabod unrhyw un y caiff y wybodaeth hon ei phrosesu. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ddarganfod pwy sy’n ymweld â’n gwefan. I gael gwybodaeth am sut mae Google Analytics yn trin eich gwybodaeth bersonol, gweler: http://www.google.com/intl/en/policies/privacy/.
Newidiadau i’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn
Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ym mis Ebrill 2021.