
Pan fydd teulu’n gadael eu tŷ am fflat newydd yng nghanol y ddinas, mae’r tŷ’n diwreiddio ei hun er mwyn eu dilyn a’u hennill yn ôl. Dyma ddechrau hanes cystadleuaeth rhwng technolegau a ffyrdd o fyw hen a newydd, wrth i’r tŷ ddilyn yr unig gliw sydd ar gael: llyfryn ar gyfer bloc o dai uwch-dechnoleg yng nghanol y ddinas. Mae’r ffilm yn llawn mynd a’i naratif yn gyffrous; bydd arwyddocâd emosiynol y ffilm yn ysgogi trafodaeth gadarnhaol am yr amgylchedd newidiol sy’n gartref i ni. O safbwynt naratif Ewropeaidd, daw’n bosibl defnyddio’r ffilm hon i ystyried y berthynas rhwng pentrefi a dinasoedd fel patrwm mudol mewn bywyd modern. Yn hyn o beth, mae’r gwaith yn cysylltu â The Return fel enghraifft o’r berthynas rhwng cefn gwlad a’r ddinas, sydd weithiau dan straen ond bob amser yn bwysig.