Mae Corpws Amlieithog DIALLS yn set ddata mynediad agored o 201 o wersi a drawsgrifiwyd o saith gwlad: adnodd gwerthfawr i ymchwilwyr, addysgwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu llythrennedd diwylliannol yn ymarferol.
Mae Corpws Amlieithog DIALLS yn cynnwys trawsgrifiadau o 201 o wersi a recordiwyd o saith gwlad fu’n cymryd rhan (y DU, Portiwgal, yr Almaen, Lithwania, Sbaen, Cyprus ac Israel). Mae’r trawsgrifiadau’n cynnwys rhyngweithiadau a deialog myfyrwyr ac athrawon yn ystod gwersi o’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (CLLP) wrth iddi gael ei gweithredu yn ystod blwyddyn ysgol 2019-2020.
Mae’r 201 o drawsgrifiadau wedi’u cynnwys yn eu hiaith wreiddiol (Saesneg, Portiwgaleg, Almaeneg, Lithwaneg, Catalaneg, Groeg a Hebraeg), ac mae 122 hefyd wedi eu cyfieithu i’r Saesneg.
Mynediad i Gorpws Amlieithog DIALLS ar Zenodo:
DOI 10.5281/zenodo.4058182
I gael mynediad i’n holl ddata a chyhoeddiadau ymchwil, ewch i’r gymuned DIALLS ar Zenodo.
