
Gwrywdod a benyweidd-dra sydd dan sylw yn y ffilm fer CGI hon, a gyd-gynhyrchwyd yn Iwerddon a’r Ffindir. Paratowyd y ffilm yn wreiddiol yn rhan o brosiect yn dathlu cerddoriaeth Chopin. Er nad yw gwybodaeth am Chopin yn angenrheidiol o gwbl i lwyddiant y ffilm, mae’r wybodaeth hon yn ychwanegu haen o gyd-destun Ewropeaidd at werth y ffilm fel arf addysgeg. Nid yw llygoden fach, wedi’i chodio fel bachgen, yn bodloni disgwyliadau ei thad. Roedd y tad yn baffiwr enwog, ond mae gan y bachgen ddiddordeb mewn dawnsio bale ac mae’n dawnsio o gwmpas mewn twtw. Fodd bynnag, daw ei foment i ddisgleirio pan fydd cath yn ymosod ar ei dad. Trwy gyfrwng bale, gall y bachgen ddianc rhag gafael y gath ac achub ei dad. Mae moeswers y stori’n glir: dathlwch wahaniaeth a charwch eich anwyliaid am bwy ydyn nhw.