Mae’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (CLLP) yn adnodd addysgu a ddatblygwyd fel rhan o’r prosiect DIALLS gan dîm amlwladol o ymchwilwyr ac athrawon. Cafodd ei ddatblygu, ei dreialu, ei weithredu ac yna ei fireinio mewn dros 350 o ddosbarthiadau mewn saith gwlad.
Mae dau brif nod i’r rhaglen:
- Dysgu diwylliannol: cefnogi plant a phobl ifanc i drafod pynciau sy’n ymwneud â chyd-fyw, bod yn gyfrifol yn gymdeithasol ac archwilio treftadaeth a hunaniaethau diwylliannol
- Deialog a dadlau: gwella gallu’r dosbarth i siarad a rhesymu â’i gilydd, gan eu haddysgu am bwysigrwydd gwrando’n ofalus ar safbwyntiau eraill, adeiladu ar y rhain ac weithiau herio neu anghytuno â nhw
Mae’r CLLP yn cynnwys:
- Llyfryn canllaw gyda throsolwg o’r rhaglen a syniadau ar gyfer dechrau arni
- Cyfres o 10 gwers ar gyfer pob grŵp oedran (4-7, 8-11, 12-15).
- Mae pob gwers yn cynnwys ffilm fer, ddi-eiriau fel ysgogiad cyffrous a diddorol ar gyfer trafodaethau a cherdyn yn cynnwys sbardun ar gyfer y wers. Gan fod y ffilmiau’n ddi-eiriau, gellir eu defnyddio mewn unrhyw iaith addysgu.
Cysylltu gydag ysgolion eraill
Mae DIALLS yn ymwneud â chysylltu ac archwilio syniadau ar y cyd. Mae ein tudalen Rhwydweithiau Ysgolion yn cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch ddod o hyd i ysgolion eraill ledled Ewrop a allai fod â diddordeb mewn cydweithio â’ch dosbarth mewn trafodaethau DIALLS.