
Mae’r mwydyn eponymaidd yn y ffilm fer hon yn anfodlon ar ei hunaniaeth ac fe hoffai fod yn rhywbeth arall. Ceisia fod yn gyfaill i bâr o lindys, ond nid yw’n llwyddo i fabwysiadu eu metamorffosis yn loÿnnod byw. Mae hyd yn oed yn gwneud pâr o adenydd o ddail pabi, ond nid yw’n gallu hedfan ac mae adar yn ei erlid. Yn drist i gyd, mae’n tynnu darn o bapur allan ac yn datgelu nad y glöyn byw mo’r anifail cyntaf y bu arno eisiau ei ddynwared; nesaf i fyny ar ei restr mae’r draenog. Testun yr animeiddiad hynaws hwn yw derbyn eich hun am bwy ydych chi, yn hytrach na cheisio bod yn rhywbeth arall. Mae’r ffilm yn ffordd dda o ystyried themâu cynhwysiad a dathlu amlrywiaeth. O safbwynt amgylcheddol, mae’n bosibl hefyd ystyried rôl mwydod yn yr amgylchedd a’u rheidrwydd ar gyfer amaethyddiaeth lwyddiannus.