DIALLS
  • Prosiect
    • Ynglŷn â’r Prosiect
    • Pecynnau Gwaith
    • Cyflawniadau Cyhoeddus
    • Pobl
      • Partneriaid
      • Bwrdd Cynghori Rhyngwladol
    • Archif y Cyfryngau
    • Archif Newyddion DIALLS
  • Adnoddau Athrawon
    • Banc Adnoddau Athrawon
    • RHAGLEN DYSGU LLYTHRENNEDD DIWYLLIANNOL
    • DATBLYGIAD PROFFESIYNOL
    • GRADDFEYDD CYNNYDD AR GYFER DYSGU LLYTHRENNEDD DIWYLLIANNOL
    • Llyfrgell
  • Effaith
    • Blog
    • Oriel Rithwir
    • Maniffesto Myfyrwyr DIALLS
    • Yr Hyn a Ddywed Athrawon am DIALLS
    • Archif Trydar
  • Data Ymchwil
    • Corpws amlieithog DIALLS
  • Cyhoeddiadau
    • Llyfrau ac Erthyglau
    • Briffiau Polisi
  • Prosiect
    • Ynglŷn â’r Prosiect
    • Pecynnau Gwaith
    • Cyflawniadau Cyhoeddus
    • Pobl
      • Partneriaid
      • Bwrdd Cynghori Rhyngwladol
    • Archif y Cyfryngau
    • Archif Newyddion DIALLS
  • Adnoddau Athrawon
    • Banc Adnoddau Athrawon
    • RHAGLEN DYSGU LLYTHRENNEDD DIWYLLIANNOL
    • DATBLYGIAD PROFFESIYNOL
    • GRADDFEYDD CYNNYDD AR GYFER DYSGU LLYTHRENNEDD DIWYLLIANNOL
    • Llyfrgell
  • Effaith
    • Blog
    • Oriel Rithwir
    • Maniffesto Myfyrwyr DIALLS
    • Yr Hyn a Ddywed Athrawon am DIALLS
    • Archif Trydar
  • Data Ymchwil
    • Corpws amlieithog DIALLS
  • Cyhoeddiadau
    • Llyfrau ac Erthyglau
    • Briffiau Polisi

Ynglŷn â’r Prosiect

DIALLS: dysgu plant i fod yn oddefgar, yn empathetig ac yn gynhwysol drwy siarad â’i gilydd.

Prosiect DIALLS

Dechreuodd prosiect DIALLS ym mis Mai 2018 ac roedd yn brosiect tair blynedd a ariannwyd gan gronfa ymchwil ac arloesi Horizon 2020 y CE, o fewn y pwnc ‘Cymdeithasau Cynhwysol, Arloesol a Myfyriol’. 

Nodau’r prosiect oedd dysgu plant mewn ysgolion o oedran ifanc i ymgysylltu â’i gilydd mewn trafodaethau lle y gall fod ganddynt safbwyntiau neu berspectif gwahanol, er mwyn galluogi ymwybyddiaeth gynyddol o’u hunaniaeth ddiwylliannol eu hunain, a bod yn sensitif nid yn unig i’w hunaniaeth a’u diwylliannau eu hunain ond hefyd i ddangos empathi tuag at rai pobl eraill.

Roedd ein tîm yn cynnwys: arbenigwyr astudiaethau diwylliannol ac addysg ddinesig, addysgwyr athrawon, seicolegwyr ac arbenigwyr llythrennedd o ddeg prifysgol mewn naw gwlad. Rydym yn falch o gynnwys Israel fel gwlad gysylltiedig er mwyn meddwl y tu hwnt i ffiniau daearyddol ac ystyried materion diwylliant, treftadaeth a hunaniaeth wrth iddynt ymestyn y tu hwnt i gysyniadau Ewropeaidd yn unig. Buom yn gweithio’n agos gydag athrawon a’u dosbarthiadau mewn saith o’r gwledydd.

Fel rhan o’r prosiect, gwnaethom ddatblygu adnoddau ar gyfer athrawon ac ymchwilwyr.

Canlyniadau’r Prosiect

Mae amcanion penodol y prosiect, a’r canlyniadau sy’n gysylltiedig â phob un, isod. Gallwch ddysgu rhagor amdanynt ar ein tudalen Pecynnau Gwaith.

Amcan: Datblygu dealltwriaeth pobl ifanc o lythrennedd diwylliannol drwy addysgu deialog a dadlau fel modd i ddeall hunaniaethau, diwylliannau ac amlrywiaeth Ewropeaidd.
Canlyniadau:

  • Rhaglen dysgu llythrennedd diwylliannol (CLLP) i’w defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth
  • Dadansoddiad o drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth ac ar-lein
  • Corpws amlieithog: casgliad mynediad agored o drafodaethau o ddosbarthiadau ledled Ewrop wedi’u trawsgrifio

Amcan: Darparu canllawiau cynhwysfawr ar gyfer datblygu llythrennedd diwylliannol mewn ysgolion.
Canlyniad:

  • Offeryn Graddfeydd Cynnydd ar gyfer Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (SPCLL) i gefnogi asesu a chynllunio 

Amcan: Hyrwyddo datblygiad hunaniaethau diwylliannol pobl ifanc yn eu trafodaethau a chynhyrchu arteffactau diwylliannol.
Canlyniadau:

  • Maniffesto llythrennedd diwylliannol a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr
  • Oriel rithwir o arteffactau diwylliannol a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr

Llinell Amser y Prosiect

Blwyddyn 1

Tasg gyntaf DIALLS oedd creu Fframwaith Dadansoddi Diwylliannol (CAF) i lywio’r prosiect, gan gynnwys diffinio’r term “llythrennedd diwylliannol” fel y byddai’n cael ei ddefnyddio yn DIALLS. Gan ddefnyddio’r cysyniadau yn y CAF, dewiswyd cyfres o 150 o destunau diwylliannol Ewropeaidd – ffilmiau byrion a llyfrau lluniau – i adlewyrchu amlrywiaeth treftadaeth a hunaniaethau diwylliannol Ewrop a chysyniadau craidd llythrennedd diwylliannol yn DIALLS. Mae’r testunau hyn i’w gweld yn Llyfrgell DIALLS. Fe wnaethom hefyd ddechrau datblygu’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (CLLP), gan weithio gyda set graidd o 20 o athrawon mewn pedair gwlad bartner i greu a threialu gweithgareddau ystafell ddosbarth ar gyfer pob un o’r tri grŵp oedran: plant 5-6 oed, plant 8-9 oed, a phobl ifanc 14-15 oed. Dewiswyd 45 o’r testunau diwylliannol yn Llyfrgell DIALLS i’w defnyddio fel ysgogiadau ar gyfer trafodaethau am gyfrifoldeb cymdeithasol a chyd-fyw.

Blwyddyn 2

Gweithredodd yr ail brif gam y CLLP yn ystod blwyddyn academaidd. Yn y gwersi cynnar, siaradodd myfyrwyr (o’r cyfnod cyn-gynradd i’r uwchradd) gyda’i gilydd yn eu hystafelloedd dosbarth, eu trafodaethau wedi’u hysgogi gan ffilm neu lyfr lluniau gwahanol a’i thema llythrennedd diwylliannol gysylltiedig. Hanner ffordd drwy’r flwyddyn, dechreuodd myfyrwyr ryngweithio ar-lein â myfyrwyr o ystafell ddosbarth arall yn yr un wlad i drafod y llyfrau lluniau neu’r ffilmiau. Yn ystod rhan olaf y flwyddyn, roedd myfyrwyr yn edrych ymlaen at ryngweithio ar-lein â dosbarthiadau tebyg o wahanol wledydd, ond yn anffodus nid oedd modd cynnal y cam hwn o’r prosiect ar ôl i ysgolion gau yn ystod pandemig COVID-19. Dechreuodd ymchwilwyr ddadansoddi’r trafodaethau a gynhaliwyd mewn ystafelloedd dosbarth, gan adeiladu tuag at droi’r sesiynau hynny wedi’u trawsgrifio yn gorpws amlieithog mynediad agored.

Blwyddyn 3

Yn nhrydedd flwyddyn y prosiect, profwyd y CLLP gan set newydd o tua 100 o athrawon. Datblygodd ymchwilwyr DIALLS hefyd Graddfeydd Cynnydd ar gyfer Dysgu Llythrennedd Diwylliannol i gefnogi athrawon wrth gynllunio ar gyfer datblygu gwybodaeth llythrennedd diwylliannol a sgiliau deialog yn yr ystafell ddosbarth. Pan amharodd pandemig COVID-19 ar gynlluniau ar gyfer cynhadledd myfyrwyr DIALLS, manteisiodd gannoedd o fyfyrwyr ac athrawon ar y cyfle gan greu datganiadau, ffilmiau byrion, ac arteffactau diwylliannol fel cyfraniadau i Faniffesto Myfyrwyr DIALLS. Cyhoeddwyd corpws amlieithog o drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth, ynghyd â llawer o lyfrau ac erthyglau gan ymchwilwyr DIALLS. Ar ddiwedd y prosiect, lansiwyd y CLLP fel adnodd mynediad agored ar wefan DIALLS y gall unrhyw athro ei ddefnyddio, unrhyw le.

  • Polisi Preifatrwydd
  • Cookie Policy (EU)

This project has received funding from the European Union’s Horizon 2020 research and innovation Programme under grant agreement No 770045.

The sole responsibility of this publication lies with the author. The European Union is not responsible for any use that may be made of the information contained therein.

Copyright 2018 Dialls ... site built by Kinetic Pulse

Manage Cookie Consent
We use cookies to optimise our website and our service.
Functional Always active
The technical storage or access is strictly necessary for the legitimate purpose of enabling the use of a specific service explicitly requested by the subscriber or user, or for the sole purpose of carrying out the transmission of a communication over an electronic communications network.
Preferences
The technical storage or access is necessary for the legitimate purpose of storing preferences that are not requested by the subscriber or user.
Statistics
The technical storage or access that is used exclusively for statistical purposes. The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes. Without a subpoena, voluntary compliance on the part of your Internet Service Provider, or additional records from a third party, information stored or retrieved for this purpose alone cannot usually be used to identify you.
Marketing
The technical storage or access is required to create user profiles to send advertising, or to track the user on a website or across several websites for similar marketing purposes.
Manage options Manage services Manage {vendor_count} vendors Read more about these purposes
View preferences
{title} {title} {title}