Mae’r ffilm fer CGI hon, a gynhyrchwyd gan Gottfried Mentor yn Film Bilder yn yr Almaen, yn ymwneud â dathlu gwahaniaeth a goresgyn anawsterau drwy gydweithio ac undod. Mae dwy afr, un fawr ac un fach, yn trotian ar ben mynydd. Ni all yr afr fach ddeall sut mae cerdded, ac felly mae’n hopian ar ei ffordd yn hytrach, gan fwrw yn erbyn y rhiant. Fel mae’n digwydd, mae ofn uchder ar yr afr fawr, wrth i’r afr fach hopian yn syth dros y bwlch ar dop y mynydd. Bydd plant 4-7 oed yn ei chael hi’n gyffrous gweld y rhiant a’r plentyn yn goresgyn eu gwahaniaethau ac yn dysgu sgiliau annisgwyl oddi wrth ei gilydd. Cyn bo hir, mae’r afr fawr wedi llwyddo i fynd dros y bwlch drwy ddynwared yr afr fechan, ac mae’r pâr yn hopian i ffwrdd gyda’i gilydd yn hapus. Mae’r stori gyfeillgar a chynnes hon yn ffordd effeithiol o ystyried themâu cyd-weithio a dathlu amlrywiaeth. Mae gennym oll wahanol sgiliau, ond drwy gydlyniad ac undod mae modd troi ein gwendidau’n gryfderau er budd pawb.