Yn yr adran hon fe welwch ddeunyddiau’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol ar gyfer plant 4-7 oed. Cliciwch ar y delweddau isod i gael mynediad i’r ffilm a sbardunau ar gyfer pob gwers.
Mae’r awgrymiadau gwersi yn cynnwys amcanion ar gyfer Deialog a Dadlau, themâu Dealltwriaeth Ddiwylliannol a syniadau ar gyfer trafodaethau ‘am’ y ffilmiau a ‘thu hwnt’ i’r ffilmiau. Mae yna syniad ychwanegol ar gyfer rhywfaint o Fynegiant Diwylliannol os ydych chi am ymestyn y wers i alluogi’r plant i ymateb yn amlfoddol i’r ffilmiau. Awgrymiadau gwersi yw’r rhain, nid cynlluniau wedi’u sgriptio. Rydym wedi gweld y llwyddiant mwyaf lle’r oedd athrawon yn gallu cymryd syniadau cychwynnol a rhoi eu sbin eu hunain ar gynlluniau gwersi. Byddem yn awgrymu eich bod yn cynnal y gwersi yn eu trefn gan fod yr amcanion deialog a dadlau yn adeiladu’n gynyddol.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gwylio’r ffilmiau a defnyddio’r sbardunau gwersi i hyrwyddo meddwl, siarad a llythrennedd diwylliannol da yn eich dosbarth.