
Ynni adnewyddadwy sydd dan sylw yn y ffilm fer a syml hon. Dyma’r unig waith yn y Llyfryddiaeth i fynd i’r afael yn uniongyrchol ac yn benodol â’r cysyniad pwysig hwn ar gyfer dyfodol Ewrop. Dim ond 90 eiliad o hyd ydyw, ond mae’n ffilm fach berffaith i fyfyrwyr ei gwylio ac efallai ei hail-wylio cyn dechrau trafodaeth. Mae pengwin am ganu ei gitâr ar silff o iâ ond nid yw hynny’n bosibl gan nad oes trydan. Fodd bynnag, gyda chymorth y morlo cyfeillgar, daw’r pengwin i ddeall sut mae defnyddio’r haul i bweru ei gitâr heb achosi niwed i neb arall. Mae’r ffilm yn agor trafodaeth am ynni adnewyddadwy a newid yn yr hinsawdd gyda phlant 8-11 oed.