Rhyfel cartref Syria yw testun y ffilm fer rymus hon — sef un o wirioneddau bywyd cyfoes, ac elfen o argyfwng presennol y mudwyr. Mae bachgen bach yn chwarae mewn bocs yn ei ystafell gyda’i gath anwes wrth i dân gwyllt gael eu tanio’r tu allan. Fodd bynnag, mae’r tân gwyllt yn troi’n ffrwydrad. Pan fydd y bachgen yn deffro mae y tu mewn i’w focs ond mewn gwersyll ffoaduriaid, yng nghanol perygl a thlodi. Wrth i’r stori fynd yn ei blaen, symuda o’r naill berygl i’r llall, cyn ceisio cael ei achub o’r diwedd. Ar adegau, mae’r ffilm fer hon gan yr animeiddydd o Dwrci yn Llundain, Merve Cirisoglu Cotur, yn dorcalonnus, ac mae’n olwg rymus ar y rhyfel yn Syria sy’n dyneiddio argyfwng y mudwyr. Mae’r gwahanol drosiadau y mae’r bocs yn sefyll drostynt drwy gydol y ffilm yn ffordd o ystyried cymhwyso symbolaeth wrth fynegi hunaniaeth ddiwylliannol. Mae’n cynnwys golygfeydd a allai beri gofid i rai plant iau.