
Anaml yr ymddengys ffilmiau drama fyw yn y casgliad, ac felly hefyd ffilmiau o Hwngari. Mae’r ffilm fer hon o ddrama fyw yn debyg i French Roast yn ei defnydd o brif gymeriad wyneb i waered: mae dyn anniben, sy’n ddigartref hefyd, fel petai’n bwyta cinio dyn busnes o Hwngari wrth stondin fwyd. Saig Hwngaraidd draddodiadol o dreip a nionod yw’r pryd. Efallai bydd y saig yn dwyn ymateb amwys ym mhalet y gwyliwr, ac mae’n tynnu sylw i’r bwydydd a diodydd y gwyddom eu bod yn normal ac sy’n sylfaenol i’n hunaniaeth. Daw’r saig yn bont rhwng y ddau ddyn, yn ffordd o nodi eiliad o newid mewn hunaniaeth genedlaethol a system ddeuaidd rhwng hen a newydd, y gorffennol a’r presennol. Bydd pobl ifanc 12-15 oed yn gallu sylwi ar y themâu pwysig hyn a dehongli eu perthnasedd i’w bywydau eu hunain — ac i’w prydau bwyd eu hunain.