Defnyddia’r ffilm hon gerddgarwch i fynegi themâu cydlyniad cymdeithasol a hunaniaeth gymdeithasol. Mae band o offerynnau yn canu eu cân gyfarwydd, ond nid yw ffliwt fechan yn gallu cyd-ganu. Yn hytrach, rhaid iddi ddod o hyd i’w cherddoriaeth ei hun. Bydd y ffocws ar rythm a cherddgarwch yn caniatáu i wylwyr ystyried twf a hunaniaeth gymdeithasol; mae hyn yn creu ffordd ddelfrydol o drafod rôl cerddoriaeth mewn bywyd pob dydd, rhwng diwylliannau ac ar eu traws. Er enghraifft, rôl gwahanol fathau o gerddoriaeth mewn gwahanol fathau o ddathliad a seremoni.

