
The Animation Workshop yn Viborg, Denmarc, yw un o’r canolfannau pwysicaf ar gyfer animeiddio yn Ewrop. Mae’r ffilm fer hon yn archwilio themâu tebyg i Enough yn ei phortread o iâr sy’n gweithio mewn swyddfa sy’n cael ei gyrru’n wallgof gan ei chydweithiwr yr eliffant. Yn ei hanfod, mae’r ffilm yn ganllaw i sut i beidio â datrys gwrthdaro yn y swyddfa, ac mae’n ffordd ddifyr i bobl ifanc 12-15 oed drafod rolau gwrthdaro a chydfodoli mewn bywyd cyfoes. Bydd gwylwyr yn gallu ystyried sut y gellid bod wedi datrys y sefyllfa, gan ddefnyddio eu profiadau eu hunain o gydfodoli i wneud hynny. Mae’r ddrama rhwng yr iâr a’r eliffant yn cyflwyno dau bersbectif gwahanol, a gellir arwain y drafodaeth ar y ffilm o’r ddau wahanol safbwynt hyn. Y themâu allweddol sy’n berthnasol i’r ffilm hon yw: cyd-weithio ac empathi. Gellir estyn y drwgdeimlad rhwng y ddau gymeriad i ddealltwriaeth well o gydfodoli, ffiniau a chyfathrebu parchus.
Lawrlwythwch awgrymiadau trafod ar gyfer y ffilm hon.