
Daw’r ffilm hon o gyfres faith Miriam gan stiwdio Baltig enwog Nukufilm yn Tallinn, Estonia. Yn y ffilm stop-symud hon, ceir portread pwysig o fywyd cyfoes yn Estonia. Mae gan Miriam a’i theulu hapus fywyd normal y bydd llawer o blant ledled Ewrop, er nad pob un, yn gallu uniaethu ag ef. Mae’r cyffro’n dechrau pan ddarganfyddir ci crwydr. Dyma’r teulu’n dod â’r ci i mewn am y noson, ond nid yw’r iâr anwes yn hapus. Fodd bynnag, da popeth a ddiweddo’n dda, pan gyrhaedda’r perchennog i hawlio ei chi. Mae’r enghraifft hyfryd hon o ffilm stop-symud Faltig yn ffordd wych o siarad am amgylcheddau domestig a pherchnogaeth ar anifeiliaid anwes fel normau diwylliannol. Cyflëir hinsawdd aeafol o eira. Cynrychiolir y teulu’n un modern, hamddenol a chyfeillgar.