
Gosodir tri anifail annhebygol gyda’i gilydd yn y cartŵn doniol hwn o Ffrainc. Mae iâr, eliffant, a neidr yn fodd o ystyried amgylcheddau gwahanol, a’r gwahanol negeseuon diwylliannol a rown i bob lle. Daw coedwig werdd yr iâr yn jyngl yr eliffant, cyn troi yn y pen draw yn anialwch melyn y neidr. Er nad yw’r anifeiliaid yn gyfeillgar i ddechrau, daw’r ffilm i ben â dathliad digrif o amlrywiaeth rhwng yr eliffant a’r iâr. Mae’r cartŵn doniol a hygyrch hwn yn gyflwyniad gwych i destunau di-eiriau, a fydd yn gyfarwydd i lawer o bobl ifanc yn ei debygrwydd i gartwnau prif ffrwd.