
Defnyddia’r cyfarwyddwr o Sweden, Guldies, elfennau metaffuglennol i gydosod y ffilm hon, lle mae’r gwyliwr yn ymwybodol o hyd o’r cynhyrchiad o’i amgylch. Mae top bwrdd wedi’i wisgo megis set, gyda dwy lamp ar y naill ochr a’r llall i oleuo golygfa tŷ, coeden, pwll, a ffynnon. Mae llaw ddynol go iawn — llaw’r cyfarwyddwr, fe dybiwn — yn estyn i mewn i’r set i’w thrin a’i thrafod. Mae’r cyfarwyddwr hyd yn oed yn mynd i bysgota yn y pwll ac yn ffrïo’r pysgod y mae’n eu dal dros dân yng ngardd y tŷ bychan. Yn y ffilm hyfryd hon, caniateir i’r gwylwyr feddwl am gartref a chynhaliaeth. Beth sydd ei angen arnom i deimlo’n gartrefol? Beth sydd ei angen ar ein cymunedau i weithredu? A pha mor ymwybodol ydym ni o’r nodweddion hyn wrth i ni fyw ein bywydau pob dydd?