
Ymdrinia’r ffilm fer hon â helaethder o faterion cymhleth cyn pen dwy funud. Mae plentyn ar y traeth yn paratoi castell tywod, wedi’i addurno’n fanwl â chregyn a phlanhigion nes ei fod yn ymdebygu i gartref annwyl. Wrth i’r tonnau ddechrau nesáu, daw mam y plentyn i helpu. Er ei bod yn ceisio helpu i amddiffyn gwaelod y castell tywod, ni all yr un ohonynt atal y tonnau, ac mae’r castell yn edrych yn siŵr o gael ei ddinistrio. Pan gollir pob gobaith, mae criw o ddieithriaid yn ymgynnull i helpu i amddiffyn y castell, a phob un yn gosod carreg o amgylch gwaelod y castell i’w gryfhau yn erbyn y tonnau sy’n codi. Daw’r ffilm i ben â chyfosodiad o’r castell tywod cryfach, hardd, a ddiogelwyd o’r newydd, a’r rhes o dai go iawn sy’n sefyll ger glan y môr ychydig y tu ôl iddo. Mae’r ffilm hon yn frith o gyfleoedd am ddeialog i blant 4-7 oed ac 8-11 oed. Yn y trosiadau a ddefnyddir, cyflwynir ffordd ddiriaethol, hygyrch a diogel o ystyried themâu anodd. Yn benodol, mae’r rhain yn cynnwys hawl sylfaenol pob unigolyn i gael lle diogel i fyw a datblygiad cynaladwy/newid hinsawdd, gan fod thema erydu arfordirol yn glir. Awgrymir y naratif mudo yng nghynsail cartref sydd wedi’i erydu – beth sy’n digwydd pan na ellir achub cartref? Ble mae cartref, felly? Mae symbolaeth colli cartref hefyd yn ffordd o ystyried sut y gellir colli cartref, y tu hwnt i achosion naturiol neu newid hinsawdd, megis rhyfel a dianc rhag trais. (Yn cynnwys cŵn).