Mae’r animeiddiad yn y ffilm Ffrangeg hon yn debyg i animeiddiad November. Datblyga cyfeillgarwch annhebygol rhwng penbwl a lindysyn wrth i’r ddau dyfu’n ddau fod gwahanol iawn: sef broga a glöyn byw. Canolbwyntia’r ffilm ar thema glasurol metamorffosis a materion tebygrwydd a gwahaniaeth a all ddeillio o hyn, gyda throad diddorol wrth i’r glöyn byw fynd ar goll. Wedi’i hadrodd mewn arddull animeiddio weledol luniaidd, mae’r stori fer hon yn ffordd hwyliog o ystyried cyfeillgarwch ac undod mewn byd newidiol o hunaniaethau ansefydlog.

