Daw dyn o hyd i gortyn coch sy’n hongian yn rhyfedd o’r awyr. Ar unwaith, cyflwynir dewis inni wrth i demtasiwn amlwg ymddangos. A ddylai ei dynnu? Mae’n chwarae â’r cortyn, yn ei siglo, ac yn ei dynnu o’r diwedd. Dyma’r goleuadau i gyd yn diffodd a’r awyr yn tywyllu: mae’n nosi, a’r tai o’i amgylch yn tywyllu. Heb allu credu’r peth yn iawn, mae’r dyn yn ei dynnu dro ar ôl tro, gan newid rhwng dydd a nos, gan roi ymdeimlad o bŵer iddo dros ei amgylchoedd naturiol. Ond mae’n tynnu’n rhy galed, ac mae’r cortyn yn datod, gan gwympo o’r awyr i bentwr wrth ei draed, gan adael y byd yn dywyll fel bol buwch. Mae’r ffilm drama fyw ryfedd hon yn dangos y llu o emosiynau sy’n gafael yn y dyn wrth iddo gael y profiad hwn: dryswch, amheuaeth, chwarae, grymuso, ac yn olaf, dinistr a braw. Bydd pobl ifanc 12-15 oed yn cysylltu â themâu grymuso a dadrymuso sy’n ymhlyg wrth iddo ddarganfod y cortyn a’i gamweithredu yn y pen draw. Defnyddia cynsail y ffilm dechnegau golygu syml iawn rhwng dydd a nos, gan gynnig felly ffordd ddiddorol i wylwyr ystyried technegau ffilm y gellir eu hefelychu wrth greu eu harteffactau diwylliannol eu hunain. Mae’r ffilm yn ffordd gymhellol o ystyried realiti lle gall gweithredoedd bychain arwain at ganlyniadau mawr.