Daw’r ffilm dyner hon o Sweden a Denmarc. Hon yw un o’r unig Destunau Diwylliannol yn y casgliad sy’n mynd i’r afael ag anabledd (In A Bubble yw’r llall). Mae’r ffilm yn taflu goleuni ar anawsterau dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn y portread hardd ac affeithiol hwn o drafferthion bachgen yn yr ysgol. Ni all y prif gymeriad integreiddio’n llawn i gymuned ei ysgol oherwydd yr anawsterau sy’n ei wynebu; cyflëir ei arwahanrwydd yn fwyn a sensitif. Pwysleisir ei sgiliau – creadigrwydd, darlunio – i’r gwyliwr yn wahanol mewn cyferbyniad â’i anhawster yn dilyn y llwybr dysgu arferol fel ei gyd-ddisgyblion. I gloi’r ffilm, mae ei dad yn ei gofleidio yn y glaw ar ôl iddo golli’r bws gartref, a hynny’n arwydd o rym tosturi, empathi a dealltwriaeth wrth integreiddio pob dinesydd mewn diwylliant cyfoes. Mae’r ffilm hon yn ffordd bwerus i bobl ifanc ystyried anabledd a/neu arwahanrwydd cymdeithasol, gan ddechrau sgwrs felly am gyfraniad cyson mewn bywyd cyfoes yn ein cymunedau.

