Os hoffech gysylltu ag ysgolion ac athrawon eraill o’r un anian i rannu Banc Adnoddau Athrawon DIALLS neu roi cynnig ar gynnal gwersi DIALLS mewn cydweithrediad â dosbarth arall, dyma rai rhwydweithiau a allai fod yn ddefnyddiol.
eTwinning
eTwinning yw “y gymuned ar gyfer ysgolion yn Ewrop”, gyda dros 200,000 o ysgolion a bron i 1 miliwn o athrawon ledled Ewrop sy’n gweithio gyda’i gilydd, yn dysgu oddi wrth ei gilydd, yn datblygu prosiectau gyda’i gilydd ac yn rhannu arfer da. Mae’n rhoi cyfle i athrawon ac ysgolion yn un o’r gwledydd Ewropeaidd sy’n cymryd rhan gydweithio a datblygu prosiectau gyda’i gilydd.
Rhwydwaith Ysgolion Democrataidd Cyngor Ewrop
Mae Rhwydwaith Ysgolion Democrataidd Cyngor Ewrop yn cefnogi ysgolion ledled Ewrop i feithrin a chynnal diwylliant democrataidd ac mae’n hyrwyddo prosiectau sy’n ffafrio cynhwysiad. Mae’n hyrwyddo rhannu arbenigedd ac yn darparu cyfleoedd rhwydweithio i ysgolion. Gallwch rannu DIALLS, ac arferion da eraill, gydag ymarferwyr eraill ledled Ewrop drwy ymaelodi â’r Rhwydwaith – mae prosiectau ysgolion sy’n aelodau yn cael eu cyflwyno ar dudalen we bwrpasol fel y gall miloedd o ymarferwyr addysg ledled Ewrop ddysgu amdanynt.
Cymdeithas Prosiectau Ysgolion Ewrop
Mae Cymdeithas Prosiectau Ysgolion Ewrop yn rhwydwaith agored cydweithredol o athrawon ac ysgolion. Mae’n canolbwyntio ar arloesi mewn addysg sy’n seiliedig ar TG a’i nod yw hyrwyddo cyd-weithio a chydweithredu rhwng disgyblion, myfyrwyr, addysgwyr ac ymchwilwyr, cefnogi datblygiad proffesiynol athrawon a darparu mynediad i rwydweithiau rhyngwladol.
Rhwydwaith Prosiectau Ysgolion Cysylltiedig UNESCO
Gyda dros 11,500 o ysgolion sy’n aelodau mewn 182 o wledydd ledled y byd, mae Rhwydwaith Prosiectau Ysgolion Cysylltiedig UNESCO yn hyrwyddo dealltwriaeth ryngwladol, heddwch, deialog rhyngddiwylliannol, datblygiad cynaladwy ac addysg o safon yn ymarferol. Yn ogystal â lledaenu deunyddiau ac arferion addysgol arloesol ac annog integreiddio gwerthoedd UNESCO, mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gysylltu ag ysgolion eraill a chyfnewid profiadau. Gallwch wneud cais i ymuno â’r rhwydwaith trwy eich cydlynydd cenedlaethol.