Gan Film Bilder, y stiwdio a wnaeth Head Up, y mae’r ffilm hon. Yn rhan o gyfres Animanimals gan Julie Ocker, mae’n cyfleu bodolaeth systematig a chyfunol nythfa o forgrug. Mae manwl gywirdeb milwrol y morgrug yn fan cychwyn addas i drafod y clymau … [Darllen mwy...]
Bon Voyage [Siwrnai Dda]
Mae eironi didostur teitl y ffilm hon yn arwydd o’i thriniaeth ergydiol o bwnc anodd, pwysig mudo gorfodol. Dechreua'r ffilm fel animeiddiad traddodiadol, gan gyfleu criw o ffoaduriaid mewn arddull o luniadau llinell syml wrth iddynt ffoi rhag perygl … [Darllen mwy...]
Alike [Yr Un Ffunud]
Y difaterwch a'r hwyliau isel a achosir gan orweithio ac unigedd sydd dan sylw yn yr hanes hwn am dad a mab. Mae’r tad yn ddiflas yn y gwaith a’i fab, sy'n ifanc o hyd, yn optimistaidd am fynd i'r ysgol. Mygir sirioldeb y mab fwyfwy wrth i'w … [Darllen mwy...]
Szalontüdö [Treip a Nionod]
Anaml yr ymddengys ffilmiau drama fyw yn y casgliad, ac felly hefyd ffilmiau o Hwngari. Mae'r ffilm fer hon o ddrama fyw yn debyg i French Roast yn ei defnydd o brif gymeriad wyneb i waered: mae dyn anniben, sy’n ddigartref hefyd, fel petai’n bwyta … [Darllen mwy...]
Deux Amis [Dau Ffrind]
Mae'r animeiddiad yn y ffilm Ffrangeg hon yn debyg i animeiddiad November. Datblyga cyfeillgarwch annhebygol rhwng penbwl a lindysyn wrth i’r ddau dyfu'n ddau fod gwahanol iawn: sef broga a glöyn byw. Canolbwyntia'r ffilm ar thema glasurol … [Darllen mwy...]
Unplugged [Heb ddyfais electronig]
Ynni adnewyddadwy sydd dan sylw yn y ffilm fer a syml hon. Dyma'r unig waith yn y Llyfryddiaeth i fynd i'r afael yn uniongyrchol ac yn benodol â'r cysyniad pwysig hwn ar gyfer dyfodol Ewrop. Dim ond 90 eiliad o hyd ydyw, ond mae'n ffilm fach … [Darllen mwy...]
Domek [Y Tŷ]
Pan fydd teulu'n gadael eu tŷ am fflat newydd yng nghanol y ddinas, mae'r tŷ’n diwreiddio ei hun er mwyn eu dilyn a'u hennill yn ôl. Dyma ddechrau hanes cystadleuaeth rhwng technolegau a ffyrdd o fyw hen a newydd, wrth i’r tŷ ddilyn yr unig gliw sydd … [Darllen mwy...]
La Moufle [Y Faneg]
Yn y ffilm hyfryd hon, bydd y portread hardd o ddyfodiad y gaeaf i gefn gwlad yn gorfodi plant 8-11 oed i drafod pwysigrwydd lloches a chynhaliaeth mewn amgylchedd llym. Wrth i’r eira ddisgyn, mae merch a'i thaid a’i nain yn paratoi ar gyfer gaeaf … [Darllen mwy...]
La Carotte Géante [Y Foronen Enfawr]
Yn yr hanes hwn am deulu gyda moronen enfawr yn tyfu yn yr ardd lysiau, mae animeiddio cyfrifiadurol wedi'i dorri'n lân a’i liwio’n feiddgar. Dim ond drwy gydweithio y gall y teulu ddadwreiddio'r foronen anferthol. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid anwes … [Darllen mwy...]