Bydd y ffilm hon yn ffordd i wylwyr greu eu thawmatrop eu hunain, sef tegan gwyddonol a grëwyd yn y 19eg ganrif lle mae darn o gerdyn yn cael ei droelli er mwyn i’r delweddau ar y naill ochr a’r llall bylu ynghyd. Mae’r ffilm fer fach hon, sy’n chwe deg eiliad o hyd, a wnaed yn Sefydliad Addysgol Technolegol Athen yng Ngwlad Groeg, yn defnyddio’r cynrychioliad o’r thawmatrop i ysgogi trafodaeth am natur a dynoliaeth. Mae dyn yn plannu coeden, ond, wrth i’r thawmatrop droelli, mae tân yn cynnau ar yr olygfa. Bydd pobl ifanc 12-15 oed yn gallu archwilio’r thawmatrop yn fodd o drafod materion a themâu cymdeithasol pwysig sy’n berthnasol i ddiben prosiect DIALLS, efallai wrth greu eu harteffactau diwylliannol eu hunain. Gall hyn naill ai gynnwys dwy ddelwedd gyferbyniol ar y naill ochr a’r llall, neu ddwy ddelwedd wahanol sy’n cynrychioli symudiad o droelli’r tegan.