Mae cawr o fachgen mewn clogyn archarwr yn cyrraedd dinas ar ynys ac yn codi ofn ar yr holl ddinasyddion bychain. Er ei fod yn ceisio dangos ei garedigrwydd drwy helpu’r dinasyddion, maent yn ei ofni o hyd. Mae llosgfynydd ym mhen draw’r ynys yn dechrau chwydu mwg wrth i ffrwydrad ddatblygu, ac nid yw’r bachgen ‘mawr iawn’ yn gallu ei atal heb gymorth ei fam, sy’n fwy o faint eto. Yn y ffilm fer, ecsentrig hon, cyffyrddir â nifer o faterion sy’n ymwneud â bywyd cyfoes, megis trychinebau naturiol a datblygiad trefol, i gyfleu neges syml am herio rhagdybiaeth. Ceir gwrthgyferbyniad rhwng gwendid y ‘cawr mawr’ o fachgen ac ofn y dinasyddion ohono, gan annog y gwylwyr i ddyfalu i ragweld eu disgwyliadau eu hunain, ac felly cyflwyno thema goddefgarwch. Daw’r cartŵn hoffus hwn o’r Swistir o’r un animeiddydd â theitl arall yn y casgliad, sef Novembre, er bod y ddau yn wahanol iawn yn thematig.