Mae person oedrannus yn byw mewn bwthyn hardd ger y traeth ac yn treulio amser yn peintio’r môr y tu hwnt i’r ffenestr. Yn ddiarwybod i’r person hwn, mae bachgen yn cuddio yn y bwthyn. Mae’r lluniau o’r môr yn codi panig yn y bachgen. Rhed o’r tŷ tuag at lanfa, lle daw ei wirionedd yn glir i’r gwyliwr: mae’n amddifad ers damwain mewn mordaith ar noson dywyll a stormus. Dyma’r bachgen yn ail-fyw’r cof mewn dilyniant gweledol syfrdanol o ddrama ar y moroedd mawr. Wrth iddo suddo i ddyfnderoedd troellog y cefnfor dyma law yn estyn allan i’w helpu — mae’r hen berson yn ei dynnu o’i drallod ac yn cynnig caredigrwydd ac undod iddo. Er nad yw’r ffilm hon yn ymwneud yn benodol ag argyfwng y mudwyr, mae ei hunaniaeth yn ffoadur amddifad yn amlwg i’r gwyliwr sylwgar. Mae hyn yn amlwg yn awgrymu trafodaeth am y themâu difrifol sy’n gysylltiedig â’r mater cymdeithasol cyfoes hwn. Yn cynnwys golygfeydd a allai dramgwyddo rhai gwylwyr.