![](https://dialls2020.eu/wp-content/uploads/2019/03/pipsqueak-prince-300x300.jpg)
Mae’n ddiwrnod prydferth, a’r Tywysog Pipsqueak yn sylwi bod marc budr ar yr haul. Yn yr animeiddiad byr hwn gan y gwneuthurwr ffilmiau o Rwsia-Ffrainc Zoïa Trofimova, dilynir y Tywysog wrth iddo ymdrechu er gwaethaf pob disgwyl i lanhau’r haul. Wrth i’r haul fachlud a dod yn nes at y Ddaear, mae’n canfod ei fod yn gallu ei gyrraedd a’i lanhau. Yn fodlon ei fyd, mae’n mynd i’r gwely wrth iddi nosi. Yma y datgelir y troad: daw’r bibell wastraff o’i dŷ allan ar ochr arall y blaned, a hi yw achos llanastr yr haul. Wrth i’r haul symud o amgylch y blaned, mae gwastraff yn syrthio ar yr haul, dim ond i ddechrau’r broses lanhau o’r newydd. Mae thema datblygiad cynaladwy/newid hinsawdd yn bresennol gan y dangosir bod effaith y gweithredoedd ar y naill ochr o’r blaned yn arwain at ganlyniadau ar y llall.