Yn yr hanes hwn am deulu gyda moronen enfawr yn tyfu yn yr ardd lysiau, mae animeiddio cyfrifiadurol wedi’i dorri’n lân a’i liwio’n feiddgar. Dim ond drwy gydweithio y gall y teulu ddadwreiddio’r foronen anferthol. Mae hyd yn oed yr anifeiliaid anwes yn ymuno: y ci, y gath, hyd yn oed y llygoden anwes. Ar ôl tynnu’r clamp o foronen o’r pridd, mae’r teulu oll, gan gynnwys yr anifeiliaid, yn dathlu drwy fwynhau cawl moron calonnog. Mor llwyddiannus yw’r cydweithio nes daw’r ffilm i ben gyda’r teulu a’i anifeiliaid yn sefyll ar ysgwyddau ei gilydd i gyrraedd afal enfawr sy’n hongian o ben y goeden. Mae themâu cyd-weithio a dathlu amlrywiaeth yn amlwg, a gellir datblygu’r cynrychioliad o fwyd a garddio ymhellach mewn trafodaeth dosbarth i archwilio datblygiad cynaladwy/newid hinsawdd.

