Dyma ffilm ffêr stop-symud luniaidd ac ecsentrig o Croatia. Ynddi, mae grŵp o drigolion bloc o fflatiau mewn ardal o’r ddinas yn gallu gweld ei gilydd wrth iddynt fyw eu bywydau. Pan fydd un o’r trigolion yn dod o hyd i lyfr o hen luniau, mae’r gerddoriaeth yn dechrau: mae’n codi i do’r adeilad ac yn canu ei sacsoffon nes bod yr holl gymdogion yn agor eu llenni i weld beth yw’r holl gynnwrf. Mor hudol yw’r gerddoriaeth nes daw octopws allan o’r môr cyfagos i ymuno. Wrth i’r octopws alw arnynt, mae’r holl breswylwyr yn tynnu offeryn allan ac yn ymuno â’r sacsoffonydd. Mae’r portread unigryw iawn hwn o themâu cydfodoli yn dangos sut y gall cerddoriaeth ddod â phobl ynghyd. Ceir yma gyfle i drafod themâu ynysu mewn lle trefol a datrys y mater hwnnw. Datblygir cwestiynau am dreftadaeth ddiwylliannol hefyd.
Lawrlwythwch awgrymiadau trafod ar gyfer y ffilm hon.