
Mae dyn mewn archfarchnad yn llwytho gormodedd o fwyd i’w droli. Yn ôl gartref, buan y mae hwn yn troi’n ormodedd o wastraff, wedi’i daflu i lori ddadlwytho. Mae’r tai a’r bwytai cyfagos hefyd yn taflu llwyth disynnwyr o wastraff i gefn y lori. Cyn hir, daw’n amlwg bod y blaned gyfan yn llawn o wastraff. Gwibia llong roced i’r Lleuad, fel petai dryllio’r Lleuad yn datrys problem y gwastraff ar y Ddaear. Ac eto, mae gan estron ar y Lleuad syniad arall, ac mae’n taflu’r gwastraff yn ôl i lawr i’r Ddaear. Mae’r ffilm fer hon, sy’n chwe deg eiliad o hyd, yn offeryn ergydiol ar gyfer deialog. Gellir datblygu themâu clir datblygiad cynaladwy/newid hinsawdd er mwyn i blant hŷn ystyried hawliau dynol a dinasyddiaeth.