
Bochdew yw arwr y ffilm fer CGI hon o’r Almaen, sy’n cwrso cariad ei fywyd ar olwyn bochdewion. Mae’n erlid y bochdew arall drwy amrywiaeth ddramatig a rhyfeddol o amgylcheddau Ewrop: heibio i Dŵr Pisa, ar draws camlas yn Fenis, y Parthenon yn Athen, ar hyd Tŵr Eiffel. Bydd gwylwyr 8-11 oed yn mwynhau profiad o’i antur fawr ar draws cynifer o olygfeydd eiconig Ewrop, sy’n gyfle i drafod pa olygfeydd a adnabuwyd a pha effaith y mae hyn yn ei chael ar ein dealltwriaeth ni’r gwylwyr. Wrth i’r naratif fynd yn ei flaen, daw’r lleoliadau’n fwyfwy byd-eang: mae’r golygfeydd yn newid i gefndir dyfrlliw Japan. Wrth i’r camera dremio allan, daw’r gynsail yn glir: hysbyseb dreigl yw’r golygfeydd ar sgrin deledu yng nghefn siop anifeiliaid anwes, ac mae arwr y ffilm fer mewn gwahanol gawell i’w anwylyd, sydd ar ei holwyn ei hun yn ddiarwybod ym mlaen y siop. Mae troad annisgwyl ar y diwedd yn ychwanegu ffordd o drafod rhywedd, os dymunir. Ymhlith y themâu a godir gan y ffilm hon mae rhyddid i symud, gan fod yr ymdeimlad o ryddid a chaethiwed mor bresennol yn nau gam y naratif gweledol.