Y difaterwch a’r hwyliau isel a achosir gan orweithio ac unigedd sydd dan sylw yn yr hanes hwn am dad a mab. Mae’r tad yn ddiflas yn y gwaith a’i fab, sy’n ifanc o hyd, yn optimistaidd am fynd i’r ysgol. Mygir sirioldeb y mab fwyfwy wrth i’w brofiadau diflas yn yr ysgol barhau i waethygu: cyn hir, nid yw’n cofleidio ei dad ar ddiwedd y diwrnod ysgol a daw’r ddau gymeriad yn fwy unig byth yn eu trallod eu hunain. Yn wynebau hyfryd o fynegiannol y tad a’r mab, darlunnir ymdrech a llafur y gwaith a’r ysgol, sy’n cael eu datrys ar ddiwedd y ffilm wrth i’r tad a’r mab ailgysylltu â natur a cherddoriaeth i ailddarganfod hapusrwydd. Mae’r ffilm yn ffordd bwysig o ystyried rôl y gwaith a’r ysgol mewn bywyd cyfoes, a dylai sbarduno themâu fel cyfraniad cyson a dinasyddiaeth. Os darllenir y ffilm yn or-syml, awgrymir bod y gwaith a’r ysgol yn ddiflas. Os darllenir y ffilm yn ddyfnach, awgrymir y dylai’r gwaith a’r ysgol fod yn weithgareddau arloesol a boddhaus fel y gall dinasyddion gymryd eu lle mewn cymdeithas.