

Mae’r prosiect DIALLS wedi canolbwyntio ar addysgu plant y sgiliau deialog a dadlau sydd eu hangen i ymgysylltu â’i gilydd gan ddefnyddio ymddygiadau goddefgar, empathig a chynhwysol.
Yng ngwanwyn 2021, lansiwyd adnoddau mynediad agored ar gyfer athrawon ac ymchwilwyr mewn hyd at 12 iaith.
Darllenwch ragor am y prosiect Horizon 2020 hwn gan y CE a’i ganlyniadau yma.
DIALLS mewn rhifau: 2018-2021
0
9
Gwledydd
0
10
Prifysgolion
0
60
Ymchwilwyr
0
350
Athrawon
0
10000
Myfyrwyr
Mae’r adnoddau mynediad agored a ddatblygodd DIALLS ar gyfer athrawon ac ymchwilwyr yn cynnwys:
- Banc Adnoddau Athrawon, gan gynnwys y Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (CLLP) sy’n defnyddio ffilmiau byr, di-eiriau wedi’u trwyddedu’n arbennig fel ysgogiadau ar gyfer trafodaethau am themâu diwylliannol sy’n ymwneud â chyd-fyw, cyfrifoldeb cymdeithasol a pherthyn.
- Corpws amlieithog helaeth, mynediad agored o fwy na 100 o drafodaethau mewn ystafelloedd dosbarth cyn-ysgol, cynradd ac uwchradd a recordiwyd yn ystod gwersi CLLP.
Beth a olygwn wrth lythrennedd diwylliannol?
Mae “llythrennedd diwylliannol” wedi golygu gwahanol bethau i wahanol addysgwyr ac ymchwilwyr. Cliciwch i ddysgu rhagor am sut rydyn ni’n ei ddeall yn DIALLS.