Fel prosiect rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol, mae DIALLS wedi cynhyrchu adnoddau o werth posibl i ymchwilwyr mewn gwahanol feysydd — pob un ohonynt â mynediad agored.
Efallai y bydd allbynnau ymchwil DIALLS yn ddefnyddiol i waith y rheini sydd ag unrhyw un o’r diddordebau ymchwil canlynol:
- Deialog addysgol
- Addysg dinasyddiaeth
- Dadlau a dysgu
- Llythrennedd amlfoddol
- Addysgu deialogaidd
- Methodolegau dadansoddi deialog/disgwrs
- Addysg sy’n seiliedig ar y celfyddydau
- Astudiaethau diwylliannol
- Dysgu gyda chymorth cyfrifiadur
- Datblygiad proffesiynol athrawon a chymunedau
Mae holl allbynnau ymchwil DIALLS — setiau data, erthyglau cyfnodolion a llyfrau — yn fynediad agored. Mae ein setiau data a’n papurau a adolygwyd gan gymheiriaid i’w gweld yn Zenodo DIALLS.
Corpws amlieithog DIALLS
Mae Corpws Amlieithog DIALLS yn cynnwys trawsgrifiadau o 201 o wersi a recordiwyd o saith gwlad fu’n cymryd rhan (y DU, Portiwgal, yr Almaen, Lithwania, Sbaen, Cyprus ac Israel). Mae’r trawsgrifiadau’n cynnwys rhyngweithiadau a deialog myfyrwyr ac athrawon yn ystod gwersi o’r Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol (CLLP) wrth iddi gael ei gweithredu yn ystod blwyddyn ysgol 2019-2020.
Mae’r 201 o drawsgrifiadau wedi’u cynnwys yn eu hiaith wreiddiol (Saesneg, Portiwgaleg, Almaeneg, Lithwaneg, Catalaneg, Groeg a Hebraeg), ac mae 122 hefyd wedi eu cyfieithu i’r Saesneg.
Gallwch gael mynediad i’r corpws ar Zenodo: DOI 10.5281/zenodo.4058182
Llyfrau ac Erthyglau
Mae DIALLS wedi cyhoeddi llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid a llyfrau wedi’u golygu yn ystod y prosiect. Mae pob un ohonynt ar gael yn rhwydd, ac mae’r rhestr lawn i’w gweld ar ein tudalen Llyfrau ac Erthyglau.
I gael cyflwyniad i ymagwedd DIALLS at lythrennedd diwylliannol, darllenwch Reconceptualizing Cultural Literacy as Dialogic Practice (2019) gan F. Maine, V. Cook a T. Lähdesmäki (ar gael yn Saesneg).
I ddathlu rhyngddisgyblaeth y prosiect, daeth ein tîm o ymchwilwyr at ei gilydd i ysgrifennu llyfr yn cipio’r gwahanol safbwyntiau yr ydym wedi’u cyflwyno i’r ymchwil. Mae’r llyfr yn fynediad agored: Dialogue for Intercultural Understanding: Placing Cultural Literacy at the Heart of Learning (2021) golygwyd gan F. Maine ac M. Vrikki, cyhoeddwyd gan Springer (ar gael yn Saesneg).
Llyfrgell
Mae Llyfrgell DIALLS yn gasgliad o lyfrau a ffilmiau di-eiriau sydd wedi’u curadu sy’n ddefnyddiol ar gyfer ysgogi trafodaethau am themâu llythrennedd yn yr ystafell ddosbarth. Fe’u dewiswyd yn ofalus gan ymchwilwyr DIALLS gan ddefnyddio adborth gan athrawon a myfyrwyr.
O fewn y llyfrgell, fe welwch:
- Yr 20 ffilm rydym wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol
- Dros 40 o ffilmiau ychwanegol ynghyd ag awgrymiadau trafod i ymestyn dysgu llythrennedd diwylliannol
- Disgrifiadau o 74 o lyfrau lluniau di-eiriau y gellid eu defnyddio i gefnogi trafodaethau ar thema DIALLS
Mae ein deunyddiau Datblygu Proffesiynol yn cynnwys sesiwn ar gyfryngu ffilmiau di-eiriau.
Oriel Rithwir
Mae’r Oriel Rithwir yn arddangosfa o waith celf — a alwn yn “arteffactau diwylliannol” — y mae myfyrwyr wedi’u gwneud mewn ymateb i drafodaethau yn yr ystafell ddosbarth am y testunau di-eiriau yn y Rhaglen Dysgu Llythrennedd Diwylliannol.
Dewisodd dosbarthiadau a gymerodd ran eu hoff arteffactau i’w harddangos yn yr Oriel Rithwir. Y canlyniad yw casgliad o bron i 80 o weithiau celf gan blant 5-15 oed mewn saith gwlad.
Mae’r oriel yn cynnwys nid yn unig yr arteffactau eu hunain, ond hefyd esboniadau’r myfyrwyr o’r hyn a ysbrydolodd y gwaith a sut y gwnaethant greu’r darnau celf.